bretoński request for "Tachwedd"
Help translate from walijski to bretoński song Tachwedd by Lleuwen Steffan
Requested by:
Ymdeithydd
on 21 wrz. 2021 - 13:25
Ymdeithydd
on 21 wrz. 2021 - 13:25 Submitter's comments:
Voir traduction française
Oryginalne teksty (piosenek)
walijski
Przekład
bretoński
Tachwedd
Mae calon y gaeaf mor llwm –
Mae’n oer ac yn gafael, mae ’na rew yn yr awel.
Mae hi’n gorfadd mewn gwely mor wag
Yn smocio dy faco wrth i’r tywydd fynd heibio.
Tachwedd oedda ti,
Mymryn o farug ar ei ffenest hi –
Yn obaith am eira go iawn,
Lle mae’r llwybr yn nhywyllwch pnawn?
Tachwedd oedda ti.
Dy grys ar y gadair pren
Ac ysbryd dy ogla yn dal ar y cynfasau.
Mae’r ci yn aros wrth y drws
Yn disgwyl dy weld di yn dwad fel goleuni.
O dy roddion drud!
Mae’r botel Jameson’s yn ei chadw hi’n glyd.
Mae dy rosod coch dal ar y bwrdd,
Yn sychu’n llwch ers iti redeg i ffwrdd.
Tachwedd oedda ti.
Mae lleisiau ei ffrindiau wrth y drws,
A chanu’n dragywydd mae’r ffôn ar ei chobennydd
Ond rhaid cadw’r galon dan do –
Yn llygad y gaea’ mae gofyn cloi y drysa’.
Tachwedd oedda ti –
Mis bach du yn ei bywyd hi.
Tachwedd, dyna i gyd,
Daw golau newydd yn nhywydd rhyw ddydd.
Tachwedd oedda ti.
Zaloguj się lub utwórz konto, aby wysłać tłumaczenie
Ymdeithydd
submitted on 21 wrz. 2021 - 13:24
Komentarz wysyłającego:














