Duffy

Harbwr Diogel

Duffy
icon
icon
icon
Also performed by:

Harbwr Diogel

Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti na fedrai ddianc rhagddo,
rhywbeth amdanat ti na fedrai fyth anghofio.
 
Wrth weld y casineb fel cancr ym mhob gwlad,
a gweld y diniwed yn nofio yn y gwaed,
wrth weld y nos yn cau allan y dydd
fyddai'm yn colli fydd,
amser hynny fyddai'n diolch...
 
Fod 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti na fedrai ddianc rhagddo,
rhywbeth amdanat ti na fedrai fyth anghofio.
 
Wrth weld y tyrrau uchel yn syrthio i'r llawr,
a chlywed gelynion yn herio efo'i geiriau mawr,
wrth weld y byd 'ma ar dan ac yn mynd o'i go
fyddaim yn anobeithio,
amser hynny fyddai'n diolch...
 
Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
 
Ti yw'r harbwr diogel yng nghanol y storm,
Ti yw'r breichiau cadarn i'm cadw rhag ofn,
O, i'm cadw i rhag ofn....
 
Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro,
rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro.
Rhywbeth amdanat ti sy'n wahanol i bawb arall,
Rhywbeth amdanat ti sy'n 'ngwneud i'n llawer cryfach.
Rhywbeth amdanat ti, rhywbeth amdanat ti, rhywbeth amdanat ti...
 
expand collapse Song details
Cookie86 Cookie86
submitted on 22 Nov 2014 - 12:49
Give a shoutout to Cookie86
Contributors:
Submitter's comments:

Duffy's song "Harbwr Diogel" performed at Waw Ffactor in 2003. Enjoy!

Translations